CYMRAEG Scouts Cymru

Page 1


Datblygu Sgiliau, Llunio’r Dyfodol

Adroddiad Effaith 2024–25

“Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu’r hyn y mae ScoutsCymru wedi’i gy flawni rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, blwyddyn a lywiwyd gan egni, ymrwymiad a chydweithrediad ein gwirfoddolwyr, ein pobl ifanc a’n tîm o staff.

Fel Arweinydd Ieuenctid Cymru, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae’r cydbwysedd hwn yn gweithio’n ymarferol. Pobl ifanc a gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’i gilydd i arwain newid a’i roi ar waith, a thîm staff ScoutsCymru yn darparu’r gefnogaeth i droi syniadau’n effaith. O ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol i lunio rhaglen a llywodraethu, rydym ni wedi gweithio gyda’n gilydd bob cam o’r ffordd.

Mae’r adroddiad hwn yn rhannu rhai o’r straeon hynny ac yn dangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn ymddiried yn ein gilydd ac yn gweithio fel un tîm. Rwy’n falch o’r hyn rydym ni wedi’i gy flawni ac yn llawn hyd yn oed mwy o gyffro am yr hyn sydd nesaf.”

Lowri Williams, Arweinydd Ieuenctid Cymru, ScoutsCymru

“Mae Sgowtio yng Nghymru yn gweithio orau pan fydd pobl ifanc, gwirfoddolwyr a thîm y staff yn gweithio gyda'i gilydd — dyna sut rydym ni’n creu newid go iawn.”

Kirsty Palmer, Cadeirydd Ymddiriedolwyr, ScoutsCymru

Cipolwg ar rifau neu gerrig milltir eithriadol eleni

Rydym ni’n cefnogi pobl ifanc 4–25 oed mewn chwech adran sy’n addas i’r oedran:

(4–6oed)

67 nyth

823 aelod

(10½ –14oed)

241 llu

Tyfodd Sgowtio Gwiwerod 22% llynedd. Ar hyn o bryd, mae dros 4,487 o bobl ifanc ar restrau aros i ymuno â Sgowtiaid yng Nghymru.

(6–8oed)

242 llwyth

(14–18oed) 97 uned

(8–10½oed) 261 haid (18–25oed) 23 gr ŵp

Mae 94% o Sgowtiaid 5–18 oed yn dweud eu bod wedi datblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol yn hwyrach mewn bywyd.

Mae 88% wedi rhoi cynnig ar weithgareddau nad ydyn nhw erioed wedi'u gwneud o'r blaen. Mae Sgowtiaid yn teimlo'n fwy hyderus, yn fwy cysylltiedig, ac yn fwy parod i arwain.

Mae 9 o bob 10 rhiant yn credu y byddai eu plentyn yn elwa o ddysgu sgiliau am oes.

Mae 8 o bob 10 yn credu bod Sgowtiaid yn helpu i ddatblygu'r sgiliau hynny.

Mae 9 o bob 10 oedolyn yn y DU yn dweud bod Sgowtiaid yn datblygu empathi a sgiliau gwrando

Pwy ydyn ni yng Nghymru

ScoutsCymru yw sefydliad Sgowtio cenedlaethol Cymru, sy’n cefnogi bron i 14,500 o bobl ifanc a thros 4,500 o wirfoddolwyr sy'n oedolion i gymryd rhan mewn anturiaethau hwyliog, heriol sy’n newid bywydau. Fel elusen gofrestredig sy'n gysylltiedig â Chymdeithas y Sgowtiaid (DU), rydym ni’n cy flwyno Sgowtio yng Nghymru mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein diwylliant unigryw, ein hiaith a'n statws fel gwlad ddatganoledig. Rydym ni’n gyfrifol am raglenni, hyfforddiant a gweithrediadau cenedlaethol ledled Cymru, ac yn cefnogi

strwythur ffederal o elusennau lleol o Grwpiau i Ranbarthau ac Ardaloedd.

Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan Fwrdd Ymddiriedolwyr gwirfoddol, sy’n cynnwys pobl ifanc 18–24 oed, ac yn cael ei ddarparu o ddydd i ddydd gan dîm o staff ymroddedig a thîm cenedlaethol o wirfoddolwyr.

Gyda'n gilydd, rydym ni’n adeiladu mudiad sy’n cael ei lunio gan bobl Cymru, ar gyfer dyfodol Cymru.

Cipolwg ar ein heffaith

Rydym ni’n falch o fod yn fudiad croesawgar a chynhwysol. Yng Nghymru, mae pobl ifanc o bob rhywedd, cefndir a chred yn dod at ei gilydd i ddysgu, arwain a ffynnu.

Mae bron i 14,500 o bobl ifanc yn rhan o ScoutsCymru, ac mae mwy na thraean o'n haelodau’n ferched. Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o'n mudiad hefyd –

Mae 27% o'n haelodau’n siarad Cymraeg.

“Mae’r niferoedd hyn yn adrodd stori anhygoel ond tu ôl i bob ystadegyn mae person ifanc sydd wedi tyfu mewn hyder, gwirfoddolwr sydd wedi gwneud gwahaniaeth, neu gymuned sy’n gryfach oherwydd Sgowtio yng Nghymru. Mae ein heffaith eleni’n ffrwyth llafur ymroddiad miloedd o wirfoddolwyr ledled Cymru sy’n rhoi eu hamser, eu sgiliau a’u hegni i helpu pobl ifanc i ffynnu.”

Rhian Moore, Prif Wirfoddolwr, ScoutsCymru

Mae Sgowtio yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan dros 4,600 o wirfoddolwyr sy'n oedolion – o gogyddion gwersylloedd i arweinwyr adrannau –pob un wedi'i uno gan awydd i helpu eraill a chreu cy fleoedd i'r genhedlaeth nesaf. Mae bron i hanner ohonynt hefyd yn gwirfoddoli y tu allan i'r Sgowtiaid.

Y tri phrif reswm pam mae pobl yn dweud wrthym eu bod yn gwirfoddoli:

‘Roeddwn i eisiau gwella pethau a helpu pobl.’

‘Byddai’n rhoi cy fle i mi ddefnyddio’r sgiliau sydd gen i.’ ‘Gofynnodd rhywun i mi helpu.’

Mae gwirfoddoli’n gwneud gwahaniaeth:

Mae 70% o wirfoddolwyr yn nodi gwell boddhad bywyd,

mae 66% yn dweud bod eu hunan-barch wedi tyfu, mae un o bob tri yn dweud ei fod wedi lleihau straen, ac

mae 42% yn dweud ei fod wedi helpu i leihau teimladau o unigrwydd.

Gwnaethon ni hefyd gynnig profiadau bythgofiadwy drwy ein dau safle cenedlaethol ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda Cornel yn cofnodi 2,400 o nosweithiau gwely a 1,884 o nosweithiau gwersylla, a'r Hafod yn cofnodi 2,220 o nosweithiau gwely ac yn cynnal 175 o gyrsiau hyfforddi llynedd.

Enillodd dros 2,000 o bobl ifanc Wobrau'r Prif Sgowtiaid - ein nifer uchaf erioed.

Dosbarthodd pobl ifanc o bob oed 150 o becynnau cynnes gaeaf, cefnogi banciau bwyd, glanhau traethau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau coffa a chodi arian.

Derbyniodd un Sgowt Fforio, Callum Smith, Wobr Dewi Sant 2024 ar ôl achub dyn ifanc a oedd ar fin cymryd ei fywyd ei hun - gweithred ryfeddol a gafodd ei chydnabod ar y lefel uchaf yng Nghymru.

Y gwahaniaeth a wnaethom yn 2024/25

1. Llais ieuenctid a chymryd rhan

Ffocws: Senedd Fodel

Ein huchelgais

Grymuso pobl ifanc yng Nghymru gyda'r

sgiliau, yr hyder a'r llwyfan i ymgysylltu â democratiaeth a llunio penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Rhoi newid ar waith

Cynhaliodd ScoutsCymru ei Senedd Fodel gyntaf erioed mewn partneriaeth â

Llywodraeth Cymru ac WCIA ar 19 Chwefror 2025. Cymerodd Sgowtiaid Fforio rolau

ASau i drafod materion go iawn, paratoi areithiau a phleidleisio yn siambr y Senedd.

Yn ogystal, cy flwynwyd cefnogaeth ariannol ar gyfer y bathodyn Ymgysylltu â

Democratiaeth, sy’n galluogi pobl 14–18 oed i gynllunio gweithgareddau dinesig, gan gynnwys ymweliadau â'r Senedd, a dyfnhau eu dealltwriaeth o brosesau democrataidd.

Lleisiau a'n lluniodd ni “Gwnaeth sefyll i fyny yn y Senedd i mi sylweddoli bod gan bobl ifanc lais a bod angen i ni ei ddefnyddio.”

Person Ifanc a Gymerodd Ran yn y Senedd Fodel

Y gwahaniaeth a wnaethom

Cymerodd 35 o Sgowtiaid Fforio ran yn y Senedd Fodel

Adroddodd 94% fwy o hyder wrth siarad yn gyhoeddus

£Cafodd grwpiau fynediad at gyllid ar gyfer bathodynnau i gynnal eu gweithgareddau dinesig eu hunain

O ganlyniad i’r llwyddiant hwn, mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ail Senedd Fodel yn 2026

Taflu goleuni ar: Ymchwil dan arweiniad pobl ifanc

Beth?

Y prosiect ymchwil mwyaf helaeth dan arweiniad pobl ifanc a gynhaliwyd erioed gan genedl Sgowtiaid y DU, wedi'i lunio a'i gy flwyno mewn partneriaeth â phobl ifanc ledled Cymru.

Pwy?

Cymerodd dros 500 o Sgowtiaid a Sgowtiaid Fforio ran mewn gweithdai ar-lein, ymgynghoriadau cardiau post, cyfweliadau un-i-un ac uwchgynadleddau wyneb yn wyneb. Hyfforddwyd pobl ifanc i arwain ymgysylltiad yn eu cymunedau eu hunain.

Effaith

Fel y dywedodd un Arweinydd Ieuenctid:

“Dyma'r tro cyntaf i mi weld sut y gall lleisiau pobl ifanc lunio penderfyniadau mewn gwirionedd.” Bydd y canfyddiadau'n dylanwadu'n uniongyrchol ar strategaeth ScoutsCymru ac ailddatblygu Gwobrau Cymru.

Beth nesaf?

Rydym ni’n gweithio gydag ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, arweinwyr ieuenctid a staff i gyd-fynd â blaenoriaethau a rennir, dan arweiniad pobl ifanc, ar gyfer 2026 a thu hwnt - gan sicrhau bod ein strategaeth, ein rhaglen a'n strwythur yn parhau i gael eu creu ar y cyd ac yn parhau’n berthnasol.

2. Antur a rhaglenni

Ffocws: cychod diogelwch Tîm Gweithgareddau Dŵr ScoutsCymru (SWAT) – “Sir Don” a “Lady Shauna”

Ein huchelgais

Ehangu mynediad at anturiaethau dŵr yng

Nghymru drwy ddarparu profiadau diogel, dan oruchwyliaeth a rhoi sgiliau a hyder gwerthfawr i bobl ifanc.

Rhoi newid ar waith

Diolch i gyllid gan Sefydliad Gosling, ychwanegom ddau gwch diogelwch - Sir Don a Lady Shauna - at fflyd SWAT. Mae'r cychod hyn wedi galluogi mwy o bobl ifanc nag erioed i fynd allan ar y dŵr yn ddiogel, rhai am y tro cyntaf erioed. Cy flwynodd gwirfoddolwyr SWAT raglen lawn o sesiynau hwylio, canŵio, padlo a diogelwch ledled gogledd Cymru, gan feithrin hyder, cael hwyl, a datblygu sgiliau ar gyfer bywyd. Hyfforddwyd gwirfoddolwyr hefyd i gy flwyno sesiynau dŵr yn lleol, gan sicrhau y gall hyd yn oed mwy o bobl ifanc gael

mynediad at y cy fleoedd hyn yn y dyfodol.

Y gwahaniaeth a wnaethom

Cymerodd dros 1000 o bobl ifanc ran mewn digwyddiadau gweithgareddau dŵr dan arweiniad SWAT

Cymerodd dros 40 ran yn y penwythnos lansio ar Lyn Brenig

Enillodd llawer gymwysterau hwylio RYA, Bathodynnau fel Amser ar y Dŵr, a phrofiad arweinyddiaeth

Mae gwirfoddolwyr bellach yn hyfforddi eraill yn lleol, gan ymgorffori sgiliau dŵr ar draws cymunedau

Lleisiau a'n lluniodd ni

“Diolch i'r cychod diogelwch newydd, rydym ni wedi gallu cael mwy o bobl ifanc allan ar y dŵr - gan gynnwys llawer nad oedd erioed wedi bod mewn canŵ nac wedi hwylio o'r blaen. Eu gwylio'n mynd o fod yn nerfus i fod yn hyderus mewn un penwythnos yw diben y cyfan. Mae'r adau hyn yn aros gyda nhw am oes.”

Eryl Williams, Arweinydd Tîm

Gweithgareddau Dŵr ScoutsCymru

Taflu goleuni ar: Menywod y Mynyddoedd

Beth?

Cy flwyniad penwythnos i gerdded bryniau i wirfoddolwyr Sgowtiaid benywaidd yn Yr Hafod, Eryri

Pwy?

Cymerodd 18 o fenywod ran, gan ddatblygu sgiliau chwilio ffordd, cynllunio llwybrau a diogelwch

Effaith?

Fel y dywedodd Bea McCarty: “Roedd yn benwythnos anhygoel… Gadawais yn teimlo’n fwy hyderus yn fy ngallu fy hun a gyda brwdfrydedd newydd dros gael pobl ifanc allan yn yr awyr agored.”

Beth nesaf?

Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae ScoutsCymru wedi gwneud cais am gyllid i ehangu’r rhaglen yn 2026 i gyrraedd mwy o fenywod ledled Cymru a chryfhau arweinyddiaeth awyr agored ar bob lefel.

3. Gwirfoddolwyr ac arweinyddiaeth

Ffocws: Arweinyddiaeth

Ein huchelgais

ryngwladol yn Kandersteg

Grymuso gwirfoddolwyr ScoutsCymru i gamu i rolau arweinyddiaeth fyd-eang, dod ag arferion gorau rhyngwladol yn ôl i Gymru, ac ysbrydoli hyder ar draws ein mudiad.

Rhoi newid ar waith

Ymwelodd y Prif

Wirfoddolwr Rhian Moore

â Chanolfan Ryngwladol

Sgowtiaid Kandersteg yn y Swistir, i drafod yr hyn y gall gr ŵp Sgowtiaid ei ddisgwyl, o gynllunio rhaglenni a llety i heriau eco a chyfeillgarwch rhyngwladol. Cymerodd ran mewn gweithgareddau dan arweiniad staff, cysylltu â thîm gwirfoddolwyr "Pinkie", a chasglu awgrymiadau gwerthfawr ar gyfer arweinwyr yng Nghymru.

Lleisiau a'n lluniodd ni “Gwnaeth ymweld â Kandersteg ddangos i mi nad oes rhaid i chi gynllunio teithiau rhyngwladol ar eich pen eich hun. Mae'r systemau cymorth a'r strwythur rhaglen a rennir, er enghraifft, yn bethau y gallwn eu defnyddio yng Nghymru i roi mwy o hyder a gallu i'n gwirfoddolwyr a'n pobl ifanc.”

Rhian Moore, , Prif Wirfoddolwr, ScoutsCymru

Y gwahaniaeth a wnaethom

Mae mewnwelediad Rhian yn cael ei integreiddio i’r Canllawiau Antur Rhyngwladol ar gyfer grwpiau Sgowtiaid

Disgwylir i gefnogaeth well i wirfoddolwyr gynyddu cyfranogiad rhyngwladol ScoutsCymru 20% yn 2025

Mae adborth gan arweinwyr lleol wedi gwella hyder cynllunio a chyfranogiad grwpiau

Mae gan ScoutsCymru bellach rôl Llysgennad Rhyngwladol ffur fiol i hyrwyddo profiadau bydeang ac arfer gorau

“Ein rôl ni fel ymddiriedolwyr yw sicrhau bod ScoutsCymru yn parhau i fod yn gryf, yn berthnasol ac yn atebol, nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n falch o fod yn adeiladu model llywodraethu sy'n gynhwysol, yn dryloyw ac yn pontio’r cenedlaethau go iawn. Fel pob gwirfoddolwr, rydym ni’n ei wneud oherwydd ein bod yn credu yn y gwahaniaeth mae

Sgowtio yng Nghymru yn ei wneud.”

Kirsty Palmer, Cadeirydd yr

Ymddiriedolwyr ScoutsCymru

Taflu goleuni ar: Y Bwrdd Ymddiriedolwyr

Beth?

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, sy'n cynnwys dim ond gwirfoddolwyr, yn chwarae rhan hanfodol y tu ôl i'r llenni yn Sgowtio Cymru, o lywodraethu a chyllid i strategaeth ac atebolrwydd.

Pwy?

Mae hanner yr holl rolau ymddiriedolwyr etholedig wedi'u cadw ar gyfer pobl 18–24 oed, ac mae aelodau ifanc yn eistedd ar bwyllgorau allweddol. Mae Arweinydd Ieuenctid Cymru yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r Cadeirydd, y Prif Wirfoddolwr a'r Prif Swyddog Gweithredol, gan fodelu arweinyddiaeth gydweithredol, rhwng cenedlaethau.

Effaith

• Penderfyniadau wedi'u llunio gan brofiad byw ac arbenigedd proffesiynol

• Adolygiad llywodraethu wedi symleiddio strwythurau a chy flwyno prosesau dwyieithog

• Hwb Llywodraethu newydd yn cefnogi ymddiriedolwyr gyda chanllawiau cyson a hygyrch

• Rhewodd ymddiriedolwyr ffi aelodaeth Cymru i leihau'r pwysau ar grwpiau lleol

Beth nesaf?

Rydym ni’n cryfhau recriwtio ymddiriedolwyr, yn hybu dysgu gan gymheiriaid, ac yn cynyddu gwelededd, gan sicrhau bod llywodraethu’n parhau i fod yn wydn, yn gynhwysol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

4. Cydraddoldeb a chynhwysiant

Ffocws: Noddi’r Parth Addysg yng Nghynhadledd Meistroli Amrywiaeth

Ein huchelgais

Hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg awyr agored drwy gymryd rhan weithredol mewn sgyrsiau cenedlaethol a sicrhau bod ScoutsCymru yn arwain drwy esiampl.

Rhoi newid ar waith

Noddwyd y Parth Addysg gan ScoutsCymru yng Nghynhadledd ac Arddangosfa Meistroli

Amrywiaeth 2024. Cynhaliom banel arbenigol amrywiol a fu’n trafod sut i greu mannau ac ymarfer mwy cynhwysol mewn amgylcheddau dysgu yn yr awyr agored, gan ddod ag egwyddorion Sgowtio i ymgyrch genedlaethol ehangach am degwch.

Lleisiau a’n lluniodd ni “Rhoddodd ein panel lwyfan inni drafod sut y gall dysgu yn yr awyr agored fod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Roedd yn atgof pwerus bod rhaid cynllunio cynhwysiant yn weithredol ym mhob rhaglen.”

Aelod o banel ScoutsCymru

Y

gwahaniaeth a wnaethom

Rhannu arfer gorau addysg yn yr awyr agored gynhwysol gyda gynrychiolwyr y gynhadledd

Gosod ScoutsCymru ar flaen y gad mewn sgyrsiau amrywiaeth cenedlaethol

Sbarduno perthnasoedd newydd â chyrff addysg, rhwydweithiau ieuenctid a phartneriaid yn y sector

Gan adeiladu ar y momentwm hwn, mae ScoutsCymru bellach yn ymgorffori hwyluso cynhwysol mewn hyfforddiant gwirfoddolwyr ac yn adolygu pob polisi rhaglen awyr agored.

u goleuni ar: Cynhwysiant ar Waith

Gwnaethom ni ymgorffori ecwiti, amrywiaeth, cynhwysiant a hygyrchedd ar hyd a lled ein strwythur a'n darpariaeth - gan sicrhau ei fod yn rhan graidd o sut rydym ni’n gweithredu, nid yn ôl-ystyriaeth.

Mae gan ScoutsCymru Arweinydd Cynhwysiant Gwirfoddol pwrpasol, 12 Cynrychiolydd Cynhwysiant Ardal, ac rydym ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid arbenigol i sicrhau darpariaeth wedi'i theilwra, dan

Trwy ein partneriaethau â Sefydliad Troseddwyr

Ifanc Carchar y Parc a'r Rhaglen Gyfoethogi, yr Uned Atgyfeirio Disgyblion mewn ysgol uwchradd yn Sir p Sgowtiaid Tŷ Hafan hirhoedlog, a'n gwaith gyda More than Flags and Rainbows i ddatblygu pecyn hyfforddi pwrpasol ar gyfer arweinwyr, rydym ni’n helpu i gael gwared ar rwystrau i gymryd rhan lle bynnag maen nhw’n bodoli.

Beth nesaf?

Rydym ni’n adeiladu ar y sylfaen hon trwy ymgorffori hwyluso cynhwysol mewn hyfforddiant gwirfoddolwyr ac adolygu ein polisïau rhaglenni awyr agored i sicrhau bod pob person ifanc yn teimlo'n gartrefol, yn cael ei gynrychioli ac yn cael ei gefnogi.

5. Polisi, partneriaethau a phroffil

Ffocws: Ymgyrch i sicrhau eithriad ieuenctid o'r Ardoll Llety Ymwelwyr

Ein huchelgais

Diogelu profiadau dros nos fforddiadwy i grwpiau ScoutsCymru trwy sicrhau eithriadau i bobl ifanc a gwirfoddolwyr o'r Ardoll Llety Ymwelwyr arfaethedig yng Nghymru.

Pwy?

Arweiniodd ScoutsCymru ymgyrch ffocws a gwerthoedd i ddiogelu mynediad at brofiadau awyr agored i bobl ifanc. Roedd ein gofyniad canolog yn glir: eithrio pobl dan 18 oed o'r Ardoll Llety Ymwelwyr arfaethedig, fel na fyddai cost byth yn rhwystr i noson gyntaf dan gynfas.

Cy flwynwyd tystiolaeth, defnyddiwyd gwirfoddolwyr, a chyhoeddwyd llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o letyau dros nos ar gyfer Sgowtiaid yn isel eu cost, yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr, ac yn cael eu cynnal mewn mannau cymunedol - ond mewn perygl o gael eu cosbi'n annheg. Drwy ganolbwyntio ar yr effaith ar gynhwysiant, fforddiadwyedd a datblygiad ieuenctid, lluniodd y broses graffu a helpodd i sicrhau newid polisi sylweddol.

Lleisiau a'n lluniodd ni “Roedd hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Mae sicrhau nad yw pobl dan 18 oed yn gorfod talu’r ardoll ymwelwyr wrth aros dros nos yn anfon neges gref am y gwerth a roddwn ar ddatblygiad ieuenctid a mynediad at yr awyr agored yng Nghymru.”

Kerrie Gemmill, Prif Weithredwr, ScoutsCymru

Y gwahaniaeth a wnaethom

Cytunodd y Senedd i eithrio pobl dan 18 oed o’r Ardoll gyfradd is ar ôl ein hymgyrch

Mae grwpiau Sgowtiaid ledled Cymru wedi dadlau’n lleol, gan rannu straeon ac adeiladu cefnogaeth y tu ôl i’r llenni

Codi ein llais dros bobl ifanc yng Nghymru

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi dechrau ail-leoli ScoutsCymru fel llais blaenllaw ar gyfer cynrychiolaeth a chyfranogiad ieuenctid yng Nghymru. O fuddugoliaethau polisi fel yr eithriad Ardoll Ymwelwyr i'n presenoldeb mewn cynadleddau a digwyddiadau cenedlaethol, rydym ni’n cael ein cydnabod fwyfwy nid yn unig am yr hyn rydym ni’n ei gy flawni, ond am yr hyn rydym ni’n ei gynnig.

Taflu goleuni ar: Gear up gyda

BCB International

Beth?

Yn 2024, ffur fiodd ScoutsCymru bartneriaeth newydd gyda BCB International Ltd, cy flenwr offer awyr agored adnabyddus, i wella mynediad at offer o ansawdd uchel i'n gwirfoddolwyr a'n pobl ifanc.

Pwy?

Mae'r bartneriaeth yn cynnig gostyngiadau unigryw ar offer i bob aelod o ScoutsCymru ac yn cynnwys rhoddion cit wedi'u targedu at bobl ifanc a fyddai fel arall yn cael trafferth fforddio offer awyr agored hanfodol.

Effaith

• Mae gan fwy o wirfoddolwyr a phobl ifanc bellach fynediad at offer awyr agored addas, sy’n lleihau un o'r prif rwystrau i gymryd rhan.

• Mae gan grwpiau difreintiedig y cyfarpar a’r hyder i grwydro'r awyr agored yn ddiogel.

Wrth i ni edrych ymlaen at etholiadau Senedd Cymru 2026, rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc a'r rhai sy'n eu cefnogi’n cael eu clywed yn uchel ac yn glir ym mhob sgwrs genedlaethol.

• Mae morâl a chyfradd cadw gwirfoddolwyr wedi gwella, diolch i well mynediad at offer o ansawdd.

Beth nesaf?

Byddwn yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’n partneriaeth gorfforaethol gyntaf gyda BCB International yn ein strategaeth codi arian, wrth i ni archwilio cy fleoedd i arallgyfeirio cyllid ac ehangu cefnogaeth yn y dyfodol.

“Yn Scouts Cymru, mae ein gwaith polisi’n ymwneud â defnyddio ein harbenigedd a'n perthnasoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau, adeiladu partneriaethau pwerus, a chreu cy fleoedd go iawn i bobl ifanc ledled Cymru.” Kerrie Gemmill, Prif Weithredwr, ScoutsCymru

Edrych ymlaenAdeiladu ar sylfeini cryf

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn egni, arloesedd a gweithredu, ond mae mwy i’w wneud. Rydym ni’n parhau i wrando, dysgu ac arwain, wedi'n llywio gan leisiau pobl ifanc a gwirfoddolwyr ledled Cymru.

Ein pum blaenoriaeth ar gyfer 2025–26:

1. Cryfhau cefnogi a recriwtio gwirfoddolwyr

2. Hyrwyddo llais a llwyddiant ieuenctid

3. Cynyddu ein proffil a'n dylanwad yng Nghymru

4. Sicrhau llywodraethu cryf a gwydnwch ariannol

5. Ehangu cy fleoedd anturus a chynhwysol

Wrth i ni edrych tua’r flwyddyn sydd o’n blaenau, mae ein ffocws yn parhau’n glir: parhau i adeiladu mudiad sy’n gynhwysol, yn grymuso ac yn cael ei arwain gan ieuenctid. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cefnogaeth ar lawr gwlad, tyfu ein sylfaen gwirfoddolwyr, ac yn ei gwneud hi’n haws i bobl ifanc lunio eu teithiau Sgowtio eu hunain. Ond ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain.

P’un a ydych chi’n wirfoddolwr, yn ariannwr, yn bartner neu’n gefnogwr, mae eich amser, eich sgiliau a’ch cred mewn pobl ifanc yn helpu i wneud hyn yn bosibl. Gyda’n gilydd, gallwn gymryd yr hyn y gwnaethom ei ddysgu eleni a mynd ymhellach fyth.

“Saif cryfder ScoutsCymru yn y bobl sy’n dod â’r mudiad yn fywgwirfoddolwyr, staff, a phobl ifanc yn gweithio ochr yn ochr. Fel y Prif Wirfoddolwr newydd o fis Medi 2025, rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y momentwm hwnnw, cefnogi hyd yn oed mwy o arweinwyr ledled Cymru, a sicrhau y gall pob person ifanc gael mynediad at yr antur, y gymuned a’r cy fle mae Sgowtio yng Nghymru yn eu cynnig.”

Jon Williams, Prif Wirfoddolwr (Newydd), ScoutsCymru

Trosolwg ariannol

Daeth y flwyddyn i ben gyda balans ariannol iach a chronfa wrth gefn o ychydig o dan ddeuddeg mis. Er bod buddsoddiadau wedi amrywio yn unol â marchnad allanol anwadal, cafodd sefydlogrwydd cyffredinol ei gynnal. Yn ystod y flwyddyn, cy flwynwyd naw cais am gyllid grant, a arweiniodd at bedwar dyfarniad llwyddiannus - gan Sefydliad Gosling, Grant Sefydliad Ieuenctid Gwirfoddol Strategol Cymru (SVWYO), y Grant Ymgysylltu Democrataidd, a chyllid Llwybr Taith 1 - cyfanswm o £290,000 ar draws sawl blwyddyn ariannol. Rydym yn parhau i chwilio ac ymgeisio am gy fleoedd cyllid grant pellach i gefnogi gweithgareddau yn y dyfodol. Cynyddodd yr incwm o Cornel, Yr Hafod, SWAT a Bushscout Cymru hefyd, gan adlewyrchu ehangu llwyddiannus ar weithgareddau a digwyddiadau yn y meysydd hyn. Gwariant yn

Allem ni ddim gwneud hyn heboch chi. Diolch i bob gwirfoddolwr, cefnogwr, ariannwr a phartner a helpodd i wneud Sgowtio yng Nghymru mor effeithiol eleni.

Mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl ifanc, creu profiadau mwy cynhwysol, ac ehangu llais ieuenctid ledled y wlad.

Gyda diolch i'n partneriaid a'n harianwyr:

• AdventureSmart UK

• BCB International Ltd

• Plant yng Nghymru

• CWYVS

• Y Comisiwn Etholiadol

• Gosling Foundation

• More than Flags and Rainbows

• Out of the Woods

• Taith

• WCVA

• WCIA

• Llywodraeth Cymru

Arhoswch mewn cysylltiad admin@scoutscymru.org.uk www.scoutscymru.org.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.