Cylchgrawn Myfyrwyr Hwbcast Bob Dau Wythnos 16 10 25

Page 1


TRIP MYFYRWYR RHYNGWLADOL

Darganfod Treftadaeth Cymru gyda

Myfyrwyr Rhyngwladol PCYDDS

Dros y penwythnos, cafodd y Hwb Myfyrwyr y pleser o gymryd

50 o fyfyrwyr rhyngwladol ar drip i Sain Fagan Amgueddfa

Werin Cymru ac i ganol dinas Caerdydd.

I nifer o’n myfyrwyr, dyma eu profiad cyntaf o dreftadaeth a diwylliant Cymru.

Diolch enfawr i’n myfyrwyr am ddod a chymaint o frwdfrydedd, chwilfrydedd a hwyl i’r siwrnai.

CYMORTH DYSGU

Newydd i Ddysgu yn y Brifysgol?

Gall dechrau yn y brifysgol deimlo fel cam mawr, ond does dim rhaid i chi ddatrys y cyfan ar eich pen eich hun!

Mae'r Tîm Cymorth Dysgu yma i'ch helpu i ddechrau, aros yn drefnus, a theimlo'n hyderus yn eich astudiaethau.

Galwch heibio i'n Sesiynau Cymorth Astudio Wythnosol

Pryd:

Dydd Mercher, 1:00 – 4:00 PM

Ble:

�� Y Cwad – Campws Caerfyrddin

�� Caffi IQ – Abertawe

�� Caffi Dynevor – Abertawe

Beth Sydd Ar Gael Cyngor cyfeillgar, anffurfiol gan Gynorthwyydd

Astudio Cymorth Dysgu Awgrymiadau ar sgiliau astudio a rheoli amser

Cymorth i ddechrau ar aseiniadau

Lle hamddenol i ofyn cwestiynau a chael cefnogaeth

Does Dim Angen Archebu – Galwch Heibio!

P'un a ydych chi'n teimlo'n ansicr neu ddim ond eisiau awgrymiadau, rydym yma i'ch helpu i ymgartrefu a llwyddo.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: disability@uwtsd.ac.uk

SESIYNAU GALW HEIBIO - AP

YR HWB

Oes angen cymorth arnoch gydag Ap yr Hwb? Oes gennych gwestiynau ynglŷn â sut i'w ddefnyddio?

Bydd yr Hwb yn cynnal sesiynau cymorth galw heibio ar draws pob campws!

Mae mwy o wybodaeth yn dod yn fuan! Anfonwch ebost at hwb@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth yn y cyfamser.

Bydd Casgliadau Arbennig PCYDDS yn cynnal prynhawn agored yn arddangos detholiad o'n mapiau a'n hatlasau hanesyddol, a gyhoeddwyd rhwng yr 16eg ganrif a'r 19eg ganrif. Bydd yr eitemau a fydd yn cael eu harddangos yn cynnwys Theatrum orbis terrarum Abraham Ortelius, sy'n cynnwys y map printiedig cyntaf o Gymru, Atlas Gerhard Mercator, neu A geographicke description of the regions, countries, and kingdomes of the world, a The theatre of the empire of Great Britaine John Speed. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda sgwrs fer, ac yna cyfle i archwilio'r cyfrolau. Fe’i cynhelir ddydd Mawrth 21 Hydref rhwng 2pm a 4pm, yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS yn Llambed.

Rydym yn gobeithio mai hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau misol.

Os hoffech wybod rhagor neu archebu lle, cysylltwch â Ruth Gooding (r.gooding@uwtsd.ac.uk)

Bydd ap newydd ar gyfer e-Lyfrau Canolog ProQuest yn cymryd lle Adobe Digital Editions i gyrchu e-Lyfrau ProQuest llawn wedi’u lawrlwytho. Bydd yr ap newydd ar gael yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 20fed Hydref 2025. Bydd gwybodaeth ar sut i osod yr ap ar gael ar blatfform ProQuest pan fydd defnyddwyr y llyfrgell yn lawrlwytho e-Lyfr fel y dangosir https://proquest.libguides.com/ebookcentral/appdownloadyma:

Cysylltwch â library@uwtsd.ac.uk os bydd angen cymorth arnoch

Eisiau dysgu mwy am y broses gyhoeddi Mynediad Agored a sut y gall fod o fudd i ymchwilwyr? Yna mae’r weminar hon yn ddelfrydol i chi!

Dewch draw i ddarganfod mwy am Fynediad Agored yn Y Drindod Dewi Sant a sut y gall tîm y llyfrgell gefnogi ein cymuned ymchwil.

Cewch ddealltwriaeth o’r canlynol:

• Beth yw Mynediad Agored a pham ei fod yn bwysig

• Manteision Ymchwil Agored

• Sut i ddod o hyd i adnoddau Mynediad Agored

• Sefydlu Rhif Adnabod ORCID

• Llwybrau cyhoeddi Mynediad Agored i ymchwilwyr

• Pethau i’w hystyried cyn cyhoeddi

• Cytundebau Cyhoeddwyr Y Drindod Dewi Sant

• Cadwrfa ymchwil Y Drindod Dewi Sant

Dyddiad: Dydd Iau 23 Hydref 2025

Amser: 1pm

Hyd: 1 awr

Lleoliad: Ar-lein, MS Teams - Cofrestrwch Yma

Digwyddiadau

Gwnewch i'ch Gradd Bwysig – Ymunwch â Phrosiect Effaith SHAPE! Eisiau gweld sut y gall eich pwnc newid y byd? Mae Prosiectau Effaith SHAPE yn cysylltu myfyrwyr o'r Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a'r Celfyddydau â heriau cynaliadwyedd yn y byd go iawn, gan roi'r cyfle i chi ddatrys problemau sy'n bwysig. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ar gyfer eich CV, yn datblygu sgiliau gwyrdd a chyflwyno y mae cyflogwyr yn eu caru, ac yn rhwydweithio â chyfoedion, partneriaid cymunedol, SOS-UK a'r Academi Brydeinig. Mae ymuno am ddim, yn gwbl hyblyg o amgylch eich astudiaethau, ac yn cynnwys y cyfle i fynychu cynhadledd 2 ddiwrnod i gyflwyno'ch canfyddiadau.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i wneud effaith - cofrestrwch yma.

Digwyddiadau

Digwyddiadau

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.